Stryd Wellington, Llannerch-y-medd ,
Ynys Mon LL71 8DP
​​
Ffôn: 01248 470466
​​
Mae Ysgol Gymuned Llannerch-y-medd yn ysgol gymuned Gymraeg sy’n darparu addysg ddwyieithog ar gyfer plant 3 - 11 oed mewn ardal amaethyddol. Mae wrth galon y gymuned, efo cysylltiadau agos rhwng y rhieni, busnesau lleol, cyrff crefyddol a’r Cyngor Cymuned.
Pwysleisir dysgu pynciau thematig trwy ddarparu profiad eang thrwy ymweliadau disgyblion, a chanolbwyntio ar yr ardal leol. Hyn er mwyn ennyn parch tuag at eiddo, adeiladau, cyd-ddyn a’n gilydd.
Mae gan yr ysgol berthynas agos iawn â’r holl rieni ac mae gennym bolisi drws agored er mwyn trafod unrhyw bynciau sy’n peri pryder. Mae yna awyrgylch cyfeillgar iawn ac y mae’r holl blant yn caru dod i’r ysgol.
Ymdrechir i wneud y profiad yn gofiadwy i’r holl blant, a dyna pam y trefnir teithiau i leoedd fel Caerdydd, Lligwy, Porth Swtan, Bethesda a Melin Llynnon.